Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (239)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau NDM5666 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Alun Ffred Jones (Plaid Cymru).
|
3 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr (60 munud) NDM5664 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflog Uwch Reolwyr, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2014.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2015.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
|
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NNDM5630 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynlliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi: a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;
b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;
c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.
|
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5665 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi busnesau bach tan fis Mawrth 2015;
b) bod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi yn natganiad yr Hydref ar 3 Rhagfyr 2014 y bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros ardrethi busnes ym mis Mawrth 2015.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cymorth ardrethi busnes i fusnesau bach.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch a'r gymuned fusnes i greu economi fwy dynamig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
y gall prifysgolion chwarae rhan hanfodol yn y broses o greu busnesau newydd gwerth uchel, er enghraifft drwy ychwanegu 261 o gwmnïau deilliedig newydd at economi Cymru yn 2012/13.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
mai Caerdydd yw'r unig ddinas yng Nghymru sydd ymhlith yr 20 o ddinasoedd gorau yn y DU ar gyfer dechrau busnesau newydd.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu opsiynau i sicrhau bod prisiadau ardrethi busnes yn olrhain y farchnad yn fwy cywir ac yn lliniaru ar gynnydd mawr mewn biliau ardrethi yn y dyfodol.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu'r cynllun cyfredol ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach am flwyddyn arall.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y meini prawf cymhwyster ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o fis Ebrill 2015 ymlaen i gyrraedd pob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.
Gwelliant 6. - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu olynydd i'r cynllun POWIS i annog gweithio mewn partneriaeth a datblygu cwmnïau deillio yn sefydliadau addysg uwch Cymru.
|
6 Cyfnod Pleidleisio
|
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5663 Lynne Neagle (Torfaen)
Pris glo - effaith glo brig yn Farteg a'r goblygiadau i gymunedau y tu hwnt i'r ardal |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2015